NEWYDDION EGLWYS CRIST

Annwyl gyfeillion,
Hyfryd oedd cael sgwrs ar y ffôn gyda’r Canon Haydn Rowlands sydd gartref bellach ar ôl
cyfnod hir yn Ysbyty Glangwili ac Ysbyty Glanaman. Mae ganddo ein dymuniadau gorau a’n
gweddïau diffuant. Gwnaeth Canon Haydn gyfraniad arbennig i’r Eglwys yng Nghymru a’r
Gymraeg dros y blynyddoedd gyda’i waith gwerthfawr tu hwnt fel golygydd Y Llan. Colled
aruthrol i’r eglwys oedd diflaniad y papur diddorol hwnnw.

Fel sawl un arall, fe dybiwn i, rwy’n gweld eisiau’r cyfle i ganu emynau Cymraeg yn y cyfnod
presennol. Mae’n debyg bod rheolau newydd bellach yn caniatàu corau bychain (gyda
asesiad risg arbennig a chytundeb yr archddiacon), ond does dim canu cynulleidfaol i fod, ac
mae canu cynulleidfaol wedi bod yn galon addoliad y Cymry ers y ddeunawfed ganrif o leiaf.
Pan gyrhaeddais Eglwys Abergorlech yn 1984 roedd gennym ‘godwr canu’ a fu’n gyfrifol am
ddewis ac arwain yr emynau os nad oedd yr organyddes yno. Edwin Chapel House oedd ei
enw, ac roedd yn byw mewn bwthyn bach ar bwys Capel Newydd yr Annibynwyr. Plentyn
amddifad oedd ef, wedi dod o’r ‘hôms’ (fel sawl un tebyg iddo) i weithio ar ffarm, a wedyn
yn yr allt (sef y goedwig yn iaith y cylch) gan orffen ei yrfa fel un o ‘fois yr hewl’.

Roedd Edwin yn Eglwyswr selog. Bob dydd Sul mi fyddai’n cerdded yn bendergynol, gyda’i
het ar ei ben a’i gopi sol-ffa o Emynau’r Eglwys dan ei gesail, o’i aelwyd draw i’r cwrdd.
Daeth Sais, Mr Pennifold, i fyw drws nesaf yn Aber-llech. Un bore fe welodd Edwin yn troi
tua’r eglwys. “Say one for me,” meddai’r newydd-ddyfodiad. “Certainly not!” atebodd yr hen
Chapel House heb flewyn ar ei dafod. “You can paddle your own canoe across the Jordan.”
Torrodd iechyd Edwin, ac fe aeth i fyw yng Nghartref Tawelan. Ar bob ymweliad, cyn i mi
ffarwelio a’r hen godwr canu, mi fyddai’n gofyn i mi gyd-adrodd ag ef trydydd colect yr
Hwyrol Weddi (gweddi sydd yn addas iawn ar gyfer y tymor hwn): ‘Goleua ein tywyllwch,
atolygwn i ti, O Arglwydd; ac o’th fawr drugaredd amddiffyn ni rhag pob perygl ac
enbydrwydd y nos hon; trwy gariad dy unig Fab, ein Gwaredwr Iesu Grist. Amen’
Cydymdeimlwn yn ddiffuant fel cynulleidfa ac eglwys â’r Parchedig Ddr Ainsley Griffiths a’i
deulu ar farwolaeth ei fam, Mrs Eilonwy Griffiths.

Cynhelir y gwasanaeth Cymraeg nesaf yn Eglwys Crist am 11yb ar Ddydd Sul 6 Rhagfyr (Sul
cyntaf y mis/Ail Sul yn Adfent). Mae gennym ddwy Zŵmfeistres alluog ac annwyl bellach i
helpu’r rhai sydd am ymuno â’n gwasanaethau ‘ZOOM’, sef y Parchedigion Delyth
Richards a Kristie Godden-Griffiths (mae Delyth ar ei gwyliau ar hyn o bryd). Rydym yn
hynod o ddiolchgar iddynt am eu cymorth cyson a’u hymroddiad hawddgar. Ceir manylion
y gwasanaethau Zoom ar waelod y cylchlythyron Saesneg. Canon Patrick

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked*