32ain LLYTHYR CYMRAEG CANON PATRICK

Annwyl gyfeillion,
Mae Hannah Josua, yr emynyddes o Gapel Gwernogle (‘Ann Griffiths De Cymru’ yn ôl yr
Athro E. Wyn James) yn enwog am bennill sy’n cynnwys linell sydd bellach bron yn
ddiharebol, sef ‘y maglau wedi torri a’m traed yn gwbwl rydd’. Yn ôl un o’i gofiannwyr roedd
Lloyd George wastad yn llefain wrth ganu’r geiriau hyn. Cefais f’atgoffa o ddoethineb yr hen
Hannah pan ddywedodd Helen fod un o’m hen gyd-weithwyr yn y winllan wedi sôn wrthi am
hyfrydwch ‘bod yn rhydd o’r holl gyfrifoldebau’ ar ôl ymddeol.
“Ydych chi’n edrych ymlaen i ryteiro?” mae sawl un wedi gofyn i mi yn ddiweddar. Ac mae’n
wir bod ‘bagad gofalon bugail’ wedi cynyddu’n aruthrol yn ystod y blynyddoedd diwethaf,
nid yn unig oherwydd y cynnydd mewn pob math o reolau statudol newydd sydd bellach yn
effeithio eglwysi, ond hefyd yn sgil yr ad-drefnu sydd wedi dileu’r gyfundrefn blwyfol a fu’n
asgwrn cefn yr eglwys dros y canrifoedd. Mae llawer o’r newidiadau hyn yn llesol ac eraill yn
anorfod oherwydd pwysau ariannol a chynulleidfaoedd yn crebachu. Ac eto, i greadur bach
hen-ffasiwn fel fi sy’n hoffi siarad â phobl yn hytrach nag eistedd o flaen cyfrifiadur, mae’r
weinidogaeth wedi colli llawer o’i flas erbyn hyn.
Pan ofynnais i’m hen gyfaill Canon Ryland Oliver sut roedd wedi treulio’r wythnosau ar ôl
ymddeol, fe atebodd gyda gwên lydan, “Wnes i ddarllen nes mod i’n biws!” – a mwy na
thebyg byddaf yn dilyn ei esiampl (os bydd Helen yn caniatáu). Fe welaf eisiau aelodau
annwyl teulu’r eglwys yn naturiol. Rwyf wedi bod yn hynod o ffodus yn fy mhlwyfolion dros
y blynyddoedd. Ond mi fydd gen i ddigonedd o atgofion melys, yn enwedig wrth gofio oes
aur ein ‘Pererindodau Bach Cymraeg’ gyda’r hwyl a chyfeillgarwch a hiwmor a fu’n gymaint
o ran ohonynt.
Un o freintiau pennaf gwasanaethu dros ddeugain mlynedd fel offeiriad yn yr Eglwys yng
Nghymru oedd y cyfle i ddysgu ac ymhyfrydu yn ‘ein Cymraeg pert ni’ (chwedl y diweddar
Mr Tim Lewis, Brechfa). Fel un o’m harwyr, y Tad John Fitzgerald, athronydd, bardd ac
offeiriad Catholig hynaws a ddysgodd y Gymraeg, ‘iaith wâr Sir Gâr a gerais’ – a byddaf yn
dal i’w charu a’i defnyddio yn y blynyddoedd sydd ar ôl gen i.
Bu’n rhaid i ni ganslo’r gwasanaeth Zoom Cymraeg ar y pedwerydd Sul ym mis Gorffennaf
oherwydd problemau technolegol. Ein hymddiheuriadau diffuant i bawb.
Gwasanaethau Cymraeg: Dydd Sul 8 Awst (Drindod 10) 11yb Cymun Bendigaid yn yr
Eglwys – fy ngwasanaeth Cymraeg olaf cyn ymddeol [darlleniadau, t.178]. A WNEWCH CHI
GYSYLLTU Â MR MALCOLM JONES OS YDYCH AM DDOD I’R GWASANAETH HWN ER MWYN
I NI GADW LLE I CHI. Gall y Parchedig Delyth Richarda a’r Canon Dr Matthew Hill (Deon yr
Ardal Weinidogaeth Leol) roi gwybodaeth am y trefniadau Cymraeg ar ôl fy niflaniad.
Diolch am eich cefnogaeth a’ch amynedd trwy gydol fy nghyfnod ym mhlwyf Dewi Sant.
Ceir manylion y gwasanaethau eraill ar y daflen Saesneg. Canon Patrick

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked*