31ain LLYTHYR CYMRAEG CANON PATRICK

Annwyl gyfeillion,
Pan oeddwn i’n dysgu Cymraeg ar y Cwrs Wlpan yn Llambed yn ôl yn 1978 roeddwn i a’m
cyd-fyfyrwyr yn gorfod ymweld yn gyson â’r Labordy Iaith i geisio gwella ein defnydd o’r
iaith. Byddem yn gwrando ar frawddegau, wedi’u llefaru mewn Cymraeg glân gloyw gan
Gymro neu Gymraes iaith gyntaf, a wedyn mynd ati i recordio ein hymdrechion i ddweud yr
un brawddegau. Profiad poenus i’r rhan fwyaf ohonom oedd gwrando ar y canlyniadau. A
phan ddaeth pob tâp i ben fe glywon ni’r gorchymyn di-drugaredd “Dyma’r diwedd, ewch yn
ôl i’r dechrau” er mwyn ail-gydio’n syth yn y broses o ‘olchi’r meddwl ieithyddol’ (linguistic
brainwashing).
Erbyn hyn, wrth gwrs, ar ôl dros deugain mlynedd, mae’r Gymraeg wedi dod yn rhan
naturiol ohonof, ac o bryd i’w gilydd rwy’n cael fy llongyfarch ar safon fy Saesneg gan rywun
sy’n meddwl fy mod yn siaradwr Cymraeg o’r crud. Ac eto rwy’n dal i gofio’r camgymeriadau
a’r anhawsterau yn y blynyddoedd cynnar: yr amser pan oedd aelodau ifanc fy nosbarth
Beibl yn Aberystwyth yn chwerthin am fy mhen pan ddwedais ‘Yr Efengyl ar ôl Sant Marc’ yn
lle’r ‘Efengyl yn ôl Sant Marc’, neu’r bregeth pan soniais am ‘Llun Galilea’ yn lle ‘Llyn Galilea’.
Serch hynny, roedd aelodau’r Eglwys Gymraeg yn Aberystwyth yn amyneddgar iawn ac yn
garedig tu hwnt i’w curad bach ffôl.
Ac mae’n rhaid i mi gyfaddef, mae dysgu’r Gymaeg wedi cyfoethogi fy mywyd a’m
weinidogaeth yn aruthrol mewn sawl ffordd. Disgrifiodd yr awdur Americanaidd Ivan Illich
ddysgu iaith newydd yn rhugl fel profiad ysbrydol dwys a hynod o fuddiol i oedolyn. Gan fod
gwreiddiau llenyddiaeth a diwylliant Cymru mor ddwfn yn y traddodiad Cristnogol, mae hyn
yn arbennig o wir am y Gymraeg. Mae gafael yn yr iaith newydd yn golygu rhyw fath o ail-
eni: sef dechrau i siarad fel plentyn cyn aeddfedu digon i ddefnyddio iaith yr oedolyn (proses
sy’n gostyngeiddio dyn yn rhyfeddol hefyd). Wrth i mi ddod i ddiwedd fy ngweinidogaeth ym
Mhlwyf Caerfyrddin Dewi Sant, rwy’n falch na fydd yn rhaid i mi ‘fynd yn ôl i’r dechrau’
gyda’r Gymraeg (er bydd dal i ymgodymu â’r Armeneg yn dipyn o her).
Cydymdeimlwn yn ddiffuant â Mrs Stella Hughes ar farwolaeth disymwth Nia, ei merch
annwyl. Mae’r teulu i gyd yn ein gweddïau.
Gwasanaethau Cymraeg: Dydd Sul 25 Gorffennaf (Gŵyl Sant Iago) 11yb Cymun Bendigaid
ar Zoom [darlleniadau, t.260]; Dydd Sul 8 Awst (Drindod 10) 11yb Cymun Bendigaid yn yr
Eglwys – fy ngwasanaeth Cymraeg olaf cyn ymddeol [darlleniadau, t.178]. A WNEWCH CHI
GYSYLLTU Â MR MALCOLM JONES OS YDYCH AM DDOD I’R GWASANAETH YN YR EGLWYS
ER MWYN I NI GADW LLE I CHI.
Ceir manylion y gwasanaethau eraill ar y daflen Saesneg. Canon Patrick

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked*